Local Explorer challenge 2021: Cymru

Her Bingo Archwilwyr Lleol Cymru - 2021

Are you up for a challenge? Explore your area of Wales and see how many of these you can find! Can you get a full row, a column, or even a whole sheet?

We'd love to see how you get on! Share your progress and photos using the #LocalExplorerChallenge hashtag and tagging @archaeologyuk on social media.


Her Bingo Archwilwyr Lleol Cymru

1. Adeilad crefyddol ond nid Eglwys Cymru

Yn aml mae'r adeiladau crefyddol hynaf ym Mhrydain yn perthyn i'r enwadau gwladol - Eglwys Cymru, Eglwys yr Alban ac Eglwys Lloegr. A allwch chi ddod o hyd i adeilad a ddefnyddir gan enwad neu grefydd wahanol?

2. Cofeb ryfel

Mae sawl gwahanol fath o gofebau rhyfel. Gallantfod wedi'u gwneud o ddeunyddiau amrywiol a gellir dod o hyd iddynt mewn lleoliadau amrywiol. Fodd bynnag, un nodwedd gyffredin a rennir gan gofebau rhyfel yw eu bod yn coffáu rhyfel neu wrthdaro a'r bobl a oedd yn rhan o'r rhyfel neu'r gwrthdaro hwnnw ac a effeithiwyd ganddo.

3. Stand Caniau Llaeth

Strwythurau llwyfan ar ymyl ffordd ger ffermydd llaeth neu ar ben eu lôn, lle gosodwyd caniau llaeth i'w casglu a'u cludo gan gar neu lorri - hyd nes y dechreuwyd cludo llaeth mewn tanceri yn ddiweddarach yn yr ugeinfed ganrif. Maent yn aml wedi'u gwneud o frics, cerrig neu goncrid hyd yn oed.

4. Adeilad wedi'i wneud o fetel

O 'darbenaclau tun' i strwythurau mwyngloddio ac ysguboriau amaethyddol, gellir defnyddio adeiladau metel mewn amrywiaeth o ffyrdd. A oes rhai yn eich ardal chi?

5. Enw lle sy'n cynnwys y gair 'felin'

Mae 'felin' yn nodwedd gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru, sy'n awgrymu lleoliad melin - naill ai gwynt, dŵr neu a bwerir gan geffyl. E.e. Felin fach, Coed y Felin neu Fancyfelin. Beth mae'r enw cyfan yn ei ddweud wrthych am hanes y lle?

6. Castell

Dywedir bod gan Gymru fwy o gestyll fesul milltir sgwâr nag unman arall yn y byd. Mae dros 600 yn Eingl-Sacsonaidd ac mae cannoedd lawer sy'n hŷn a dim ond yn dwmpathau yn y dirwedd. Maent wedi'u marcio yn aml ar fapiau Arolwg Ordnans. A oes gennych chi un yn eich ardal chi?

7. Hen bostyn giât

Gall pyst giât fod yn ddangosyddion pwysig o oedran eiddo neu o leoliad hen ffin. Mae'r postyn giât, gyda neu heb ei giatiau, yn dweud llawer am bwy bynnag a'u rhoddodd nhw yno - a allwch chi adnabod un gydag anifail neu enw hen eiddo arno? Gall eu dyluniadau fod yn ddiddorol a chyfrannu'n sylweddol at gymeriad ardal.

8. Tafarn pentref / dinas (neu adeilad a oedd gynt yn dafarn)

Yn anffodus, mae'r dafarn leol ar drai, ond mae'r adeiladau a oedd unwaith yn gantref iddynt yn aml yn amlwg iawn yn ein trefi a phentrefi ac nid oes amheuaeth y bydd straeon lleol am y 'Llew Coch' neu'r 'Tŷ Castell'!

9. Blwch post

Mae'r dyluniad blwch post coch clasurol yn rhan enwog o strydlun Prydain. Mae rhai yn dyddio'n ôl i'r cyfnod Edwardaidd neu Fictoraidd - a allwch chi ddweud beth yw oedran un yn eich ardal chi?

10. Carreg filltir

O oes y Rhufeiniaid hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd cerrig milltir a chyfeirbwyntiau yn ffyrdd pwysig o fesur pellter a dod o hyd i'ch ffordd ar draws tir anhysbys. Arweiniodd y cynnydd yn y ceir modur a theithio cynt at leihad yn eu pwysigrwydd ond gallant ddweud llawer serch hynny am sut oedd ein cyndeidiau yn teithio ac i ble.

11. Mesurau ymbellhau cymdeithasol

Mae ein hamgylcheddau lleol wedi addasu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Pa fesurau diogelwch newydd allwch chi eu hadnabod?

12. Ffenestr ddormer

Ffenestri to yw ffenestri dormer sy'n estyn allan o brif ongl y to, gyda tho bach uwchben y lle ychwanegol a grëwyd. Gall rhai ohonynt fod yn hen iawn ac fe'u defnyddir yn aml wrth drawsnewid atigau i ychwanegu uchder i'r lle yn y to.

13. Draig

Un o'n symbolau cenedlaethol - mae sawl draig ar ochr adeiladau, yn amddiffyn ein cestyll neu'n addurno tu blaen siopau. A allwch chi ddod o hyd i un yn eich ardal chi?

14. Pont garreg

Mae carreg sy'n treulio'n dda yn ddeunydd da i'w ddefnyddio ar gyfer pont, gan ei fod yn ymdopi ag erydiad dŵr a thraul gan draffig.

15. Llechi Cymru

Mae Cymru wedi bod yn cyflenwi llechi o ansawdd uchel i'r byd ers cannoedd o flynyddoedd. Mae lliw glas / porffor / llwyd nodweddiadol y llechen yn hawdd i'w adnabod.

16. Adeilad wedi'i wneud o garreg

Mae adeiladau carreg yn gyffredin yng Nghymru, yn adlewyrchu'r angen am ddeunyddiau sy'n treulio'n dda i wrthsefyll effeithiau gwaethaf yr hinsawdd. Mae adeiladau carreg Cymru yn niferus ac yn amrywiol, yn adlewyrchu daeareg amrywiol y wlad - pa garreg a ddefnyddir yn eich ardal chi?

17. Cerflun o rywun o Gymru

Dynion, merched, anifeiliaid, arwyr, ac arwresau - pwy sy'n cael eu hanrhydeddu neu eu dathlu yn eich ardal chi?

18. Arwydd siop yn Gymraeg

Yn ffordd hollbwysig o warchod y Gymraeg, mae arwyddion siopau yn amrywiol ac yn ddiddorol ac mae nifer yn hanesyddol.

19. Adeilad gyda cholofnau / pileri / pilastrau

Maent yn nodwedd neoglasurol boblogaidd mewn pensaernïaeth, a ddefnyddir yn aml ar adeiladau o statws uchel. Mae gan golofnau baladr crwn tra mae gan bileri baladr sgwâr, mae'r ddau yn strwythurau yn y bôn (sy'n cefnogi llawr uchaf, to neu borth). Pan gânt eu gosod ar wal, maent yn fwy addurnol na strwythurol, ac felly yn bilastrau.

20. Enw stryd neu ffordd sy'n dangos pa weithgaredd oedd yn arfer digwydd yno neu'n disgrifio'r ardal

Mae enwau strydoedd yn cynnig llawer o gliwiau am hanes yr ardal. A allwch chi ddod o hyd un sy'n dweud wrthych beth oedd pobl yn ei wneud yn yr ardal gyfagos neu'n disgrifio nodweddion cyfagos - Heol y Bont, Coed y Castell, Stryd y Popty

21. Strwythur diwydiannol

Unrhyw adeilad neu strwythur sy'n gysylltiedig â diwydiant - chwarel, melin, ffatri neu bwll glo efallai.

22. Rheilffordd

Rheilffordd bresennol neu adfeiliedig. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, newidiodd rheilffyrdd drafnidiaeth am byth, roedd rheilffyrdd bach ar draws Cymru - pa mor agos yw / oedd eich agosaf?

23. Strwythur ynni adnewyddadwy

Mae'r olygfa o dyrbinau gwynt a phaneli solar wedi dod yn gyffredin yn nhirweddau a threfi Cymru. Pa strwythurau ynni adnewyddadwy sy'n eich ardal chi?

24. PRIF EITEM: Tŷ Bach

Nid tŷ bach yn llythrennol ond yr enw llafar ar gyfer toiled y tu allan. Roeddent yn arfer bod yn nodwedd gyffredin ym mron bob tŷ ond a allwch chi ddod o hyd i un sy'n dal i fodoli?


Wales challenge list (in English)

1. A religious building that’s not Church of Wales

Often the oldest religious buildings in Britain belong to the state denominations – Church of England, Church of Scotland, and Church in Wales. Can you find a building used by a different denomination or religion?

2. A war memorial

There are many differenttypes of war memorials. They can be made of various materials and can be found in diverse locations. However, the one common characteristic shared by war memorials is that they commemorate a war or conflict and the people involved in or affected by that war or conflict.

3. Milk Churn stand

These are roadside platform structures beside dairy farms or at the end of their lane, where milk churns were placed to be collected and transported by car or lorry - until milk began to be transported in tankers in the later twentieth century. They are often of brick, stone or even concrete.

4. A building made of metal

From ‘tin tabernacles’ to mining structures and agricultural barns, metal buildings can have a vast range of uses. Are there any in your area?

5. Place name that includes the word ‘felin’

‘Felin’ is commonly found in place names in Wales, hinting at the location of a mill - either wind, water or horse powered. E.g. Felin fach, Coed y Felin or Bancyfelin. What does the entire name tell you about the place’s history?

6. A castle

It is said that Wales has the highest number of castles per square mile than anywhere else in the world. Over 600 are Anglo-Saxon and there are many hundreds more that are older and mere humps in the landscape. They are often marked on Ordnance Survey maps. Do you have one near where you live?

7. An old gatepost

Gateposts can be important indicators of the age of a property or where a previous boundary has disappeared. The gatepost, with or without its gates, says a lot about whoever put them there – can you spot one topped by an animal or the name of a former property? Their designs can be intriguing and can significantly contribute to the character of an area.

8. Village / city pub (or building which was a pub)

The local pub is sadly on the decline, yet the buildings which once housed them are often very distinct in our towns and villages and there will no doubt be local tales told about the ‘Llew Coch’ or ‘Tŷ Castell’!

9. Post box

The classic red post-box design is a well known part of the British streetscape. Some date back to Edwardian or Victorian times - can you tell the age of one near you?

10. A milestone

From Roman times to the late nineteenth century milestones and way markers were important ways of measuring distance and finding your way across unknown terrain. The rise of the motorcar and faster travel reduced their importance but they can still tell us a lot about how and where our ancestors travelled.

11. Social distancing measures

Our local environments have adapted over the last year. What new safety measures can you spot?

12. Dormer window

Dormer windows are roof windows which project out from the main angle of the roof, with small roofs over the extra space created. Some can be very old and they’re often used as part of attic conversions to add head height inside the roof space.

13. A dragon

One of our national emblems -there are many dragons perched on buildings, guarding our castles or embellishing shop fronts. Can you find one near you?

14. Stone bridge

Hardwearing stone is a good material to use for a bridge, since it copes with both water erosion and wear from traffic.

15. Welsh slate

Wales has been supplying the world with high-quality slate for hundreds of years. Its characteristic blue / purple / grey hue is easy to recognize.

16. A building made of stone

Stone buildings are common in Wales, reflecting the need for strong hard wearing materials to combat the worst effects of the climate. The building stones of Wales are many and varied reflecting the diverse geology of the country – what stone is used near you?

17. A statue of a Welsh person

Men, women, animals, heroes, and heroines – who is honored or celebrated in your area?

18. A shop sign in Welsh

A significant way of helping to preserve the Welsh language, shop signs are varied and interesting and many are historic.

19. Building with columns / piers / pilasters

These are a popular neoclassical feature in architecture, often used on high-status buildings. Columns have a round shaft, piers have a square shaft, both are generally structural (supporting an upper story, roof or porch). When they are attached to a wall, so decorative rather than structural, they are pilasters.

20. A street or road name which indicates what activity used to happen there or describes the area

Street names offer lots of clues to the past history of the area. Can you find one which tells you what people did nearby or which describes nearby features – Hoel Y Bont, Coed Y Castell, Stryd Y Popty

21. Industrial structure

Any building or structure connected with industry – maybe a quarry, mill, factory or mine.

22. A railway line

An existing or disused railway line. In the nineteenth century, railways changed transport forever, small lines crossed all over Wales – how close is / was your nearest?

23. Renewable energy installation

The sight of wind turbines and solar panels have become commonplace in Welsh landscapes and towns. What examples of renewable energy installations are close to you? 24. STAR ITEM: Ty Bach Not just a small house but the colloquial name for an outdoor toilet. These used to be a common feature of almost every house but can you find one that still exists?

Related topics

Contact details

Council for British Archaeology

Council for British Archaeology